Back to jobs

Uwch Swyddog Data a Dadansoddi

S4C logo
Location Caerfyrddin
Agency S4C
Type Permanent
Closing date July 26th

Rôl yr Uwch Swyddog Data a Dadansoddi yw adrodd yn feintiol ac yn ansoddol ar berfformiad S4C, ac ymchwilio dyheadau’r gynulleidfa. Byddwch yn asesu tueddiadau yn y byd cyfryngau er mwyn rhagweld gofynion y dyfodol.

Byddwch yn rhoi cyngor i’r adran ac yn cyfrannu at drafodaethau am gynnwys, amserlennu a chyfathrebu.

Manylion eraill

Lleoliad:                

Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Mae S4C yn cynnig trefniadau gweithio’n hyblyg. 

Cyflog:                      

Cystadleuol

Cytundeb:             

Parhaol

Oriau gwaith:          

35.75 yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:       

6 mis

Gwyliau:               

Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn:              

Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd 26 Gorffennaf 2019 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.  Nid ydym yn derbyn CV.

Apply now